#                                                                                      

Y Pwyllgor Deisebau | 25 Medi 2018
 Petitions Committee | 25 September 2018
 
 
 ,Papur Briffio ar gyfer y Pwyllgor Deisebau  

 

 

 


Briff Ymchwil: Rhagdybiaeth o blaid ysgolion gwledig 

Rhif y ddeiseb: P-05-828

Teitl y ddeiseb: Rhagdybiaeth o blaid ysgolion gwledig

Testun y ddeiseb:

Galwn ar y Llywodraeth i gymryd camau i sicrhau y bydd awdurdodau lleol yn dilyn canllawiau’r cod trefniadaeth ysgolion presennol a'r cod newydd (pan ddaw i rym), gan gynnwys gweithredu’n unol â'r rhagdybiaeth o blaid ysgolion gwledig. Derbyniwn nad yw hyn yn golygu na chaiff ysgol wledig byth ei chau, ond mae penderfyniad diweddar Pwyllgor Gwaith Cyngor Ynys Môn i gau Ysgol Bodffordd yn dangos bod rhwydd hynt i awdurdodau lleol anwybyddu'r cod newydd (y maent i fod i weithredu yn unol â'i ysbryd) a chau hyd yn oed ysgolion poblogaidd a llawn.

1.       Crynodeb

§    Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi rhoi blaenoriaeth i greu rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig. Nid yw hyn mewn grym eto a dim ond y Cod Trefniadaeth Ysgolion presennol, a gyhoeddwyd yn 2013 y mae'n ofynnol i awdurdodau lleol ei ddilyn.

§    Mae Cod Trefniadaeth Ysgolion newydd arfaethedig yn dynodi oddeutu 200 o ysgolion (gan gynnwys Ysgol Bodffordd) yn 'ysgolion gwledig' a ​​fyddai'n cael eu cynnwys gan ragdybiaeth yn erbyn cau. Nid yw hyn yn golygu’n bendant na fydd yr ysgolion hyn yn  cau, ond byddai’n rhaid cael achos cryfach dros wneud hynny, gan gynnwys ystyried yr holl opsiynau hyfyw eraill.

§    Gosododd Llywodraeth Cymru y Cod newydd gerbron y Cynulliad ar 17 Medi 2018. Mae’r Cod newydd ar hyn o bryd yn mynd drwy weithdrefn Negyddol y Cynulliad ar gyfer is-ddeddfwriaeth. Yn amodol ar hynny, bydd yn dod i rym ar 1 Tachwedd 2018

§    Yn y cyfamser, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi gofyn i awdurdodau lleol ystyried 'ysbryd' y Cod drafft. Fodd bynnag, nid ydynt o dan unrhyw rwymedigaeth i gydymffurfio â’r cod ac nid oes unrhyw rwystr statudol i Gyngor Sir Ynys Môn fwrw ymlaen â’r cynnig y cyfeirir ato yn y ddeiseb, cyn belled â’i fod wedi cydymffurfio â’r Cod 2013 presennol. Ni fydd y Cod newydd yn gymwys i gynigion sydd eisoes wedi mynd drwy ymgynghoriad fel yn achos y cynnig hwn. Rhaid i gynigion o’r fath felly gael eu hystyried o dan y Cod 2013 presennol.

§    Ar 17 Medi 2018, lansiodd Cyngor Sir Ynys Môn ymgynghoriad cyn cyflwyno cais cynllunio ynglŷn â’r cynnig. Fodd bynnag, ar adeg ysgrifennu (18 Medi) nid yw wedi cyflwyno’r rhybudd statudol i fynd â’r cynnig i’r cam nesaf. Bydd angen i’r awdurdod lleol wneud hynny erbyn 2 Hydref 2018 neu fel arall, bydd yn rhaid iddo ddechrau ymarfer ymgynghori newydd.

2.       Blaenoriaeth i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Un o'r deg blaenoriaeth addysg y cytunwyd arnynt gan Kirsty Williams a’r Prif Weinidogr pan gafodd ei phenodi’n Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ym mis Mehefin 2016 oedd:

§  Adolygu’r polisi cyfredol ar leoedd gwag mewn ysgolion, gyda phwyslais ar ysgolion gwledig, a rhoi mwy o ystyriaeth i dueddiadau twf y dyfodol.

Yn ystod haf 2017, ymgynghorodd Llywodraeth Cymru ar gyflwyno rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig drwy adolygu’r Cod Trefniadaeth Ysgolion. Mae'r Cod yn darparu canllawiau statudol i awdurdodau lleol ar sut i arfer eu swyddogaethau o dan Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, o ran cau ac uno ysgolion.

Yn y ddogfen ymgynghori, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg:

Rwy’n gwybod, ac mae rhieni ar draws cymunedau gwledig yn gwybod, bod ysgolion bach a gwledig yn gwneud cyfraniad pwysig at godi safonau ac ymestyn cyfleoedd i bawb. Yn wir, maent yn hollbwysig o ran ymgysylltu â disgyblion a theuluoedd o’r cefndiroedd mwyaf difreintiedig mewn ardaloedd gwledig a chodi dyheadau disgyblion. Rwy’n gwybod hefyd y gall cynnal darpariaeth ysgol hygyrch mewn rhai cymunedau gwledig, bach wneud cyfraniad sylweddol at gynaliadwyedd tymor hir y gymuned leol.[1]

3.       Y Cod Trefniadaeth Ysgolion presennol

Mae’r Cod Trefniadaeth Ysgolion (2013) yn nodi'r broses y mae'n rhaid i awdurdodau lleol ei dilyn wrth ystyried uno neu gau ysgolion ac mae'n is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013. Cyhoeddodd y Gwasanaeth Ymchwil Ganllaw Cyflym i Gynigion ynghylch Trefniadaeth Ysgolion yn 2015, sy'n nodi'r sefyllfa bresennol.

Mae Cod 2013 yn parhau i fod mewn grym nes y bydd unrhyw God newydd yn pasio trwy broses ddeddfwriaethol y Cynulliad. Mae'n ofynnol i gyrff perthnasol (awdurdodau lleol yn bennaf) gydymffurfio â’r Cod 2013 presennol ac nid ydynt o dan unrhyw rwymedigaeth i gydymffurfio ag unrhyw god olynol arfaethedig cyn hyn. 

Roedd y fframwaith cyfreithiol newydd a gyflwynwyd gan Ddeddf 2013, ac y manylir arni yng Nghod 2013, yn cynrychioli symudiad o’r system flaenorol, lle’r arweiniodd unrhyw wrthwynebiad cofrestredig ffurfiol i gynnig trefniadaeth ysgol iddo gael ei gyfeirio at Weinidogion Cymru i'w benderfynu. O dan y system ôl-2013, gall y corff perthnasol (awdurdodau lleol fel arfer) benderfynu ar gynigion, heblaw am yn yr eithriadau a nodir a chyn belled â bod cyrff perthnasol yn cydymffurfio â phroses benodol.

Yr eithriadau lle mae cynigion i gau ysgolion i gael eu penderfynu gan Weinidogion Cymru yw:

§    Os yw’r cynigion yn effeithio ar addysg chweched dosbarth;

§    Os gwnaed y cynigion gan gorff heblaw'r awdurdod lleol perthnasol a bod yr awdurdod lleol hwnnw’n gwrthwynebu'r cynnig;

§    Os yw penderfyniad a wnaed gan yr awdurdod lleol ar gynnig yn cael ei gyfeirio at Weinidogion Cymru gan un o'r personau cymwys canlynol:

o   Awdurdod lleol arall yr effeithir arno gan y cynigion;

o   Os yw’r ysgol yn ysgol ffydd, y corff crefyddol priodol;

o   Os yw’r ysgol yn ysgol wirfoddol neu ysgol sefydledig, y corff llywodraethu neu ymddiriedolaeth sy'n dal eiddo ar ran yr ysgol;

o   Sefydliad addysg bellach yr effeithir arno gan y cynigion.

3.1        Y Cynnig yn Ynys Môn

Ar 30 Ebrill 2018, penderfynodd Pwyllgor Gwaith Cyngor Sir Ynys Môn gau dwy ysgol gynradd gymunedol, sef Ysgol Bodffordd ac Ysgol Corn Hir, ac adeiladu ysgol newydd. Dyma'r cynnig y mae'r ddeiseb yn cyfeirio ato ac yr adroddwyd amdano ar BBC Cymru.

Bydd yr ysgol newydd naill ai ar un safle i gymryd lle Ysgol Bodffordd ac Ysgol Corn Hir, neu ar ddau safle ar ôl uno ag Ysgol Henblas er bod hyn yn dibynnu ar asesiad yn y dyfodol i weld a yw’r safonau wedi gwella yn Ysgol Henblas. 

Nid yw'n ymddangos bod y cynnig yn dod o dan unrhyw un o'r eithriadau i’w cyfeirio at Weinidogion Cymru a nodir yng Nghod Trefniadaeth Ysgolion (2013) ac a nodir uchod. Gall yr awdurdod lleol benderfynu arno felly heb ei gyfeirio at Weinidogion Cymru. Fel y dywed llythyr yr Ysgrifennydd Cabinet, mae'n ofynnol i Gyngor Sir Ynys Môn gyhoeddi'r hysbysiad statudol gan fwrw ymlaen â’r penderfyniad a wnaed ganddo ar 30 Ebrill 2018 o fewn 26 wythnos (erbyn 2 Hydref 2018). Fel arall, bydd yn rhaid i'r awdurdod lleol gynnal proses ymgynghori newydd, ac mae manylion amdani wedi'u nodi yn y Cod.

Ar 17 Medi 2018, lansiodd Cyngor Sir Ynys Môn ymgynghoriad cyn-cyflwyno cais cynllunioynghylch adeiladu Ysgol Gynradd Newydd yn Llangefni i gymryd lle Ysgol Corn Hir ac Ysgol Bodffordd. Ar adeg ysgrifennu (18 Medi 2018), nid yw’r awdurdod lleol eto wedi cyflwyno rhybudd statudol i fwrw ymlaen â phenderfyniad ei Bwyllgor Gwaith ar 30 Ebrill 2018.

 

O dan y Cod presennol (pennod 4), mae’n rhaid i’r rhybudd statudol ddarparu ar gyfer cyfnod o 28 diwrnod i bobl gofrestru gwrthwynebiadau. Os ceir unrhyw wrthwynebiadau, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol gyhoeddi Adroddiad Gwrthwynebu yn crynhoi’r gwrthwynebiadau statudol a’i ymateb i’r gwrthwynebiadau hynny. Mae’n rhaid cyhoeddi hwn o fewn saith diwrnod i ddyddiad y penderfyniad.

Ar ôl i awdurdod lleol benderfynu ar ei gynnig a chyhoeddi adroddiad gwrthwynebu (na ddylai ddigwydd cyn pen 28 diwrnod ar ôl cyhoeddi’r rhybudd statudol), ni all yr awdurdod lleol ond oedi neu ddod â dyddiad gweithredu’r cynnig ymlaen o’r dyddiad a nodwyd yn y rhybudd statudol, neu roi’r gorau i’r cynnig, gyda chytundeb Gweinidogion Cymru. 

4.       Cod Trefniadaeth Ysgolion newydd arfaethedig

Ymgynghorodd Llywodraeth Cymru yn ystod haf 2017 ar gynigion i adolygu'r Cod Trefniadaeth Ysgolion a chyflwyno rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig. Gofynnodd yr ymgynghoriad am farn ar nifer o newidiadau arfaethedig i'r Cod yn dilyn tair blynedd o weithredu yn seiliedig ar adborth a dysgu yn ystod y cyfnod hwnnw. Yr unig newidiadau sylweddol a gynigiwyd oedd i  'gryfhau' y Cod o ran rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig a dull o lunio rhestr o'r hyn sy'n gwneud 'ysgol wledig'.

4.1        Rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig

Bydd y Cod newydd arfaethedig yn cyflwyno rhagdybiaeth benodol yn erbyn cau ysgolion gwledig. Bydd hyn yn ei gwneud yn ofynnol i gynigwyr ddilyn set fwy manwl o weithdrefnau a gofynion wrth lunio cynnig i gau ysgol wledig ac wrth ymgynghori a phenderfynu a ddylid gweithredu ar gynnig i gau ysgol wledig. Fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn ei Rhagair i'r ddogfen ymgynghori:

Nid yw rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig yn golygu na fydd ysgolion gwledig byth yn cau. Fodd bynnag, mae'n golygu bod rhaid i'r achos dros gau’r ysgol fod yn un cryf, ac na ddylai’r penderfyniad gael ei wneud hyd nes y bydd pob opsiwn arall wedi’u hystyried, gan gynnwys ffedereiddio. [Ein pwyslais ni]

Mae paragraff 1.8 o’r Cod Trefniadaeth Ysgolion drafft yr ymgynghorwyd arno yn ystod haf 2017 yn darparu'r manylion ar gyfer sut y byddai'n rhaid i awdurdodau lleol gymhwyso'r rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig, gan gynnwys camau pellach penodol y byddai’n rhaid iddynt eu cymryd pe byddent yn llunio cynnig o'r fath.

4.2        Dynodi ysgolion gwledig

Y prif gynnig arall yn y ddogfen ymgynghori oedd cyflwyno dull o ddynodi ysgolion gwledig. Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig dull sy'n defnyddio diffiniad cyffredinol o ardaloedd gwledig fel y byddai unrhyw ysgol o fewn yr ardaloedd hynny yn cael ei dynodi'n wledig yn awtomatig at ddibenion cynigion trefniadaeth ysgolion. 

Cafodd rhestr arfaethedig o 191 o ysgolion gwledig ei chynnwys yn Atodiad F y fersiwn ddrafft o'r Cod Trefniadaeth Ysgolion a oedd yn destun ymgynghoriad. Mae'r ddogfen ymgynghori’n nodi mai hwn fyddai lleiafswm yr ysgolion y dylid eu dynodi'n wledig.

Mae’r rhestr o 191 o ysgolion yr ymgynghorwyd arnynt yn ystod haf 2017 i'w dynodi’n ysgolion gwledig ac sydd felly'n cael eu cynnwys gan y rhagdybiaeth yn erbyn cau, yn cynnwys Ysgol Bodffordd ac Ysgol Henblas. Pe bai'r Cod newydd arfaethedig ar waith cyn i gynnig Cyngor Sir Ynys Môn gael ei gwblhau, byddai'n rhaid i'r awdurdod lleol ddangos achos digon cryf i oresgyn y rhagdybiaeth yn erbyn cau, er na fyddai o reidrwydd yn atal yr ysgol rhag cau.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru grynodeb o’r ymatebion i ymgynghoriad 2017 ar 2 Gorffennaf 2018. Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wrth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn ystod sesiwn graffu gyffredinol ar 28 Mehefin 2018 (paragraffau 60-76) fod yr ymgynghoriad wedi arwain at alwadau am ehangu’r diffiniad o ysgol wledig, a fyddai'n cynnwys 28 o ysgolion eraill, gan ddod â'r cyfanswm i 219. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori â'r awdurdodau lleol ychwanegol hynny a fyddai'n cael eu heffeithio, a dywed fod hyn wedi achosi oedi o ran cyflwyno'r Cod newydd.

4.3        Gosod y Cod newydd a’r Amserlen ar gyfer dod i rym

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet wrth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg hefyd ym mis Mehefin 2018 nad oedd digon o amser i osod y Cod Trefniadaeth Ysgolion newydd gerbron y Cynulliad cyn toriad yr haf ac y byddai'n cael ei osod mor gyflym ag y gallwn yn nhymor newydd [yr hydref].

Ar 17 Medi 2018, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad yn cyhoeddi gosod y Cod Trefniadaeth Ysgolion drafft. O dan weithdrefn Negyddol y Cynulliad ar gyfer is-ddeddfwriaeth, mae gan Aelodau'r Cynulliad 40 diwrnod (ac eithrio unrhyw gyfnod toriad o fwy na 4 diwrnod) i ddirymu'r ddeddfwriaeth. Fel arall gall y Cod Trefniadaeth Ysgolion newydd ddod i rym. Yn amodol ar hyn, dywed datganiad Ysgrifennydd y Cabinet y disgwylir i’r Cod newydd ddod i rym ar 1 Tachwedd 2018.

Fodd bynnag, ni fydd y Cod Newydd yn gymwys i gynigion sydd eisoes wedi bod drwy ymgynghoriad statudol o dan y Cod 2013 presennol. Dywed tudalen 3 o’r Cod Newydd

Os yw cynigydd wedi dechrau ymgynghori cyn 1 Tachwedd 2018 bydd rhaid i’r cynnig â gyhoeddwyd ei benderfynu yn unol â fersiwn gyntaf y Cod. Ystyrir y bydd ymgynghoriad wedi dechrau pan fydd dogfen ymgynghori, fel sy’n ofynnol gan adran 3.2 o’r fersiwn gyntaf o’r cod, wedi’i chyhoeddi.

5.       Beth sy'n digwydd yn y cyfamser?

Pan ofynnwyd beth fyddai'n digwydd i ysgolion (fel yn achos Ysgol Bodffordd) y byddai eu statws yn cael ei warchod i raddau helaethach o dan y Cod newydd ond sy’n wynebu cael eu cau yn y cyfamser o dan y Cod presennol, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet yn Cyfarfod Llawn ar 25 Ebrill 2018 (paragraffau 18-23):

Buaswn yn dweud wrth awdurdodau lleol sy'n ystyried y mater hwn ar hyn o bryd fy mod wedi bod yn glir iawn ynghylch fy nghyfeiriad teithio a'm bwriad polisi, a buaswn yn eu hannog i ystyried yr ysbryd hwnnw rhwng nawr ac unrhyw gyhoeddiad ffurfiol mewn perthynas â'r cod trefniadaeth newydd. [Ein pwyslais ni]

Ysgrifennodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at Ysgrifennydd y Cabinet ar 6 Mehefin 2018 yn mynegi pryder ynglŷn â’r ansicrwydd parhaus y mae hyn yn ei achosi i ysgolion sy’n wynebu’r posibilrwydd o gau. Gofynnodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod awdurdodau lleol yn ystyried 'ysbryd' polisi'r dyfodol a beth sy'n cael ei wneud i amddiffyn ysgolion rhag i benderfyniadau tymor hir gael eu gwneud tra nad yw'r Cod wedi'i gwblhau.

Ymatebodd Ysgrifennydd y Cabinet i’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar 29 mehefin 2018 2018, (PDF 354KB) gan ddweud:

Rydw i wedi bod yn eglur iawn o ran trywydd y polisi hwn ac fy mod yn disgwyl i awdurdodau lleol weithredu mewn ffordd sy’n gyson ag ysbryd y newidiadau arfaethedig. Fodd bynnag, rydw i wedi dweud ar sawl achlysur nad yw'r Cod yn ôl-weithredol, ac na fydd unrhyw newidiadau i'r Cod presennol yn weithredol hyd nes bod ail fersiwn y Cod yn dod i rym. Gan gofio hynny, er fy mod wedi ei gwneud yn glir beth yw fy nisgwyliadau, nid oes unrhyw ofyniad statudol ar awdurdodau lleol a chynigwyr eraill i gydymffurfio â darpariaethau sydd yn ail fersiwn y Cod hyd nes y daw hwnnw i rym. [ein pwyslais ni]

O ran achos penodol y deisebwyr, nid oes unrhyw rwystrau statudol i Gyngor Sir Ynys Môn fynd ymlaen â'i benderfyniad i gau'r ysgolion, cyn belled nad yw wedi torri'r Cod Trefniadaeth Ysgolion (2013) presennol. Gallai achwynwyr drefnu adolygiad barnwrol o'r penderfyniad (sy'n ddewis drud) neu gwyno am gamweinyddu i'r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus er bod hyn yn ymwneud â'r broses a ddilynwyd, nid rhinweddau’r penderfyniad.

Nid oes unrhyw ofyniad ar yr awdurdod lleol i gydymffurfio ag unrhyw fwriad polisi a nodir gan Lywodraeth Cymru na darpar God ar ffurf ddrafft.  Hefyd, fel y nodwyd uchod, ni fydd y Cod newydd yn gymwys i gynigion sydd eisoes wedi mynd drwy ymgynghoriad cyn i’r Cod newydd ddod i rym. Felly, ni fydd y ffaith nad yw Cyngor Sir Ynys Môn efallai wedi penderfynu ar y cynnig cyn 1 Tachwedd 2018 ynddo’i hun yn ei atal rhag mynd ymlaen â’r cynnig. Fodd bynnag, bydd angen i’r awdurdod lleol gyhoeddi rhybudd statudol erbyn 2 Hydref 2018. Fel arall, bydd angen iddo gynnal ymarfer ymgynghori newydd oherwydd bydd 26 wythnos wedi mynd heibio ers diwedd y cyfnod ymgynghori blaenorol.

Fodd bynnag, efallai yr hoffai’r Pwyllgor nodi bod adroddiad Cyngor Sir Ynys Môn sy’n cyd-fynd â phenderfyniad ei Bwyllgor Gwaith ar 30 Ebrill 2018 yn nodi bod ariannu’r adeilad (au) ysgol newydd yn dibynnu ar gyllid Llywodraeth Cymru (gweler adran 11 yr adroddiad).

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na'u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.

 



[1] Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams, Rhagair i Ddogfen Ymgynghori 'Cod Trefniadaeth Ysgolion', Mehefin 2017